Y Sgwrs Genedlaethol
Er mwyn dechrau Cynllun Natur y Bobl, fe wnaethom ofyn i chi rannu eich barn ynghylch pam mae ein byd natur mor arbennig a beth allwn ni ei wneud i’w ddiogelu. Mewn dim ond pedair wythnos, cafwyd 30,000 o ymatebion gan bobl a oedd yn rhannu eu syniadau a’u safbwyntiau ar-lein ac mewn digwyddiadau mewn canolfannau Future Art ledled y DU. Roedd y syniadau hyn yn bwydo i mewn i’r themâu a’r pynciau a drafodwyd yng Nghynulliad Natur y Bobl Cynulliad Natur y Bobl.
Yr hyn ddwedoch chi am fyd natur yn y DU a sut gallwn ni ei achub
O blannu coed, i achub anifeiliaid sydd mewn perygl a gofalu am iechyd meddwl pobl, roedd miloedd ohonoch chi wedi rhannu eich syniadau a’ch safbwyntiau am yr hyn rydych chi’n ei garu am fyd natur a sut gallwn ni i gyd ei achub. Dyma gipolwg ar rai o’r sgyrsiau sydd wedi helpu i lunio Cynllun Natur y Bobl
Digwyddiadau wyneb yn wyneb
Cymerodd miloedd ohonoch ran yn y Sgwrs Genedlaethol drwy rannu eich safbwyntiau mewn 74 o leoliadau ledled y DU, gan gynnwys canolfannau Future Art, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ysgolion a chlybiau pêl-droed. Roedd gan bob canolfan a oedd yn cymryd rhan goeden a oedd yn llawn syniadau a safbwyntiau ynghylch sut gallwn ni ddiogelu natur a bywyd gwyllt yn y DU.
Gwyliwch y fideo i gael gwybod mwy o wybodaeth.
Yr hyn rydych chi’n ei hoffi am fyd natur, a’r hyn rydych chi’n ei feddwl fyddai’n wahanol mewn dyfodol lle mae byd natur yn ffynnu

"Rydw i wrth fy modd â’r heddwch mae’n ei roi i mi pan fydda i’n mynd am dro, i wylio’r tymhorau’n newid, y pleser o weld adar a bywyd gwyllt arall. Gwirioni wrth weld dyfrgi, eryr y môr a gwalch y pysgod a’r llawenydd ar wynebau fy mhlant wrth iddynt hwythau eu gweld hefyd."

“Rydw i wrth fy modd â’r rhyddid y mae natur yn ei roi pan allwch chi stopio ar unrhyw adeg a gwylio bywyd yn ei holl ogoniant, o’r mwsogl a’r trychfilyn lleiaf yn treulio’u diwrnod i sŵn dail y coed, sŵn dŵr yn rhedeg, neu adar yn canu; mae’n baradwys ac yn berffeithrwydd. Byddai colli’r fath symlrwydd yn ergyd i’r enaid ac yn fy ngadael i’n llawer tlotach.”

“Hyd yn oed yn y ddinas, mae’r llwynogod trefol, adar yr ardd, crehyrod glannau camlesi a pharciau gwyrdd yn fodd o dorri ar y tir caled yr ydym yn cerdded arno. Maent i gyd yn creu llawenydd."

“Hyd yn oed yn y ddinas, mae’r llwynogod trefol, adar yr ardd, crehyrod glannau camlesi a pharciau gwyrdd yn fodd o dorri ar y tir caled yr ydym yn cerdded arno. Maent i gyd yn creu llawenydd."

“Pobl ddim yn manteisio ar natur am elw. Rydyn ni’n byw ochr yn ochr â natur, nid yn ceisio ei dominyddu – fel gwneud yn siŵr nad yw ein ffyrdd yn atal anifeiliaid rhag croesi, neu nad yw ein diwydiant yn llygru eu cynefinoedd.”

"Byddai llawer iawn mwy o fannau gwyrdd. Byddai cydbwysedd bywyd pobl yn wahanol. Byddem yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu byd natur. Byddai cyflymder bywyd yn arafach ac yn fwy cysylltiedig – gyda phobl yn cael mwy o amser ar gyfer eu teulu a’u ffrindiau a’u cymuned leol."

"Mwy o ymgysylltu â’r gymuned wrth greu atebion a gweithredu."

“Pryd bynnag y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, ystyrir natur fel llais yn yr ystafell – Sut y gall hyn effeithio’n gadarnhaol ar fyd natur? Sut y gall defnyddio natur fod o fudd i’r penderfyniad hwn? Mae bwrlwm natur bron yn fyddarol o’i gymharu â’r distawrwydd sydd weithiau’n digwydd ar hyn o bryd.”
Enghreifftiau rydych chi wedi’u gweld o bobl yn cydweithio i adfer ac amddiffyn byd natur yn y Deyrnas Unedig
Dyma beth oedd ganddo chi i’w ddweud
Ychwanegwch eich llais chi at Gynllun Natur y Bobl
Mae’r bobl wedi lleisio eu barn. Nawr mae angen i bawb weithredu.
Gyda’n gilydd gallwn wneud y cynllun hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu.
Pa enghreifftiau cyffrous wyt ti wedi'u gweld o bobl yn cydweithio i adfer ac amddiffyn natur?
Pa enghreifftiau cyffrous wyt ti wedi'u gweld o bobl yn cydweithio i adfer ac amddiffyn natur?