Cynulliad Natur y Bobl

Cynulliad Natur y Bobl oedd y tro cyntaf erioed i ddinasyddion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddod ynghyd i gytuno ar sut i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Roedd Cynulliad Natur y Bobl yn cynnwys grŵp cynrychioladol o 103 o bobl a ddewiswyd o bob cwr o’r DU, pob un â chefndiroedd, gwerthoedd a phrofiadau gwahanol. 

Gwrandawodd y grŵp ar amrywiaeth eang o dystiolaeth ac astudiaethau achos dros bedwar penwythnos i ddysgu am yr argyfwng y mae natur y DU yn ei wynebu. Yna, buont yn trafod y materion sy’n wynebu natur y DU ac yn dod o hyd i dir cyffredin i greu Cynllun Natur y Bobl.

Darganfod beth ddigwyddodd bob wythnos

 

Wythnos un - Beth yw natur a pham mae angen ei warchod?

Trosolwg o sefyllfa byd natur yn y DU ar hyn o bryd a pham ei bod yn bwysig ei ddiogelu a’i adfer. 

Wythnos dau – Diogelu ac adfer natur.

Beth yw’r prif bethau sy’n arwain at golli byd natur a pha fesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu ac adfer byd natur yn y DU?

Wythnos tri – Cynnal pobl a natur

Edrych ar sut rydyn ni’n defnyddio’r tir, dŵr ffres a’r môr i fodloni ein hanghenion sylfaenol, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd.

Wythnos pedwar – Creu’r Cynllun

Cafodd y grŵp gyfarfod i wrando eto ar yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu a’i drafod, cyn mireinio’r camau gweithredu i’w cynnwys yng Nghynllun Natur y Bobl.

Lawr lwytho yr agenda lawn ar gyfer pob penwythnos

Lawr lwythwch raglen weithgareddau Cynulliad Natur y Bobl.

I edrych yn fanylach ar yr hyn a ddigwyddodd bob penwythnos, gallwch lawr lwytho’r agenda ar gyfer pob wythnos.

Delwedd
PPFN

Er mwyn gwneud yn siŵr bod Cynulliad Natur y Bobl yn ddiduedd ac yn deg, penodwyd Grŵp Cynghori annibynnol i wirio’r cynnwys oedd yn cael ei drafod a sut y cafodd ei gyflwyno.

Delwedd
PPFN peoples assembly

Dysgwch fwy am sut y cafodd y cynulliad ei redeg, y broses o ddewis y cyfranogwyr, a llawer mwy yn ein cwestiynau cyffredin.

Ychwanegwch eich llais chi at Gynllun Natur y Bobl

Mae’r bobl wedi lleisio eu barn. Nawr mae angen i bawb weithredu.

Gyda’n gilydd gallwn wneud y cynllun hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu.