Newyddion

Yn y newyddion

30.09.22

"Most UK adults think nature is in urgent need of protection – poll" - The Guardian

YouGov survey for major charities finds 81% believe wildlife and environment are under threat.

 

30.09.22

"End to EU laws, mini-budget and farming review an ‘attack on nature’" - The Independent

“We’re talking about the biggest attack on nature in a generation,” said RSPB’s director of policy and advocacy.

 

30.09.22

"UK wildlife charities hatch plan to pressure Government on environmental protection" - Edie

The National Trust, the RSPB, and WWF have joined forces with celebrity champions Maisie Williams and Cel Spellman to launch the People’s Plan for Nature, a national rallying cry for the public to have its say on how to respond to the ecological crisis.

 

30.09.22

"Conservation charities call for public’s views on ‘catastrophic’ government policy" - Charity Times

The Royal Society for the Protection of Birds (RSPB), the World Wildlife Fund (WWF) and the National Trust have launched a joint campaign to improve public involvement in UK policy debates around nature.

Datganiadau i’r wasg

30.09.22

Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn credu bod natur mewn argyfwng ac mae angen cymorth ar frys wrth i elusennau wahodd y cyhoedd i ymuno â’r sgwrs fwyaf erioed am natur

Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw gan yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae saith deg naw y cant o oedolion yng Nghymru yn credu bod natur dan fygythiad ac mae wyth deg un y cant yn credu y dylai pawb chwarae rhan i warchod natur ac osgoi argyfwng natur yn y DU. 

Mae hanner (50%) ohonynt yn fodlon cymryd camau eu hunain i warchod natur ond dydy 46% o bobl yng Nghymru ddim yn teimlo eu bod wedi cael eu grymuso i wneud hynny. 

Daw’r canlyniadau wrth i dair o elusennau cadwraeth mwyaf y DU ymuno â’r hyrwyddwyr enwog Maisie Williams a Cel Spellman i lansio Cynllun Natur y Bobl, gan wahodd y genedl i ddweud ei dweud am sut mae’r DU yn datrys yr argyfwng natur parhaus.

Drwy gynnal sgwrs ledled y DU a chynulliad cyntaf y bobl ar gyfer byd natur, mae’r elusennau’n gwahodd y cyhoedd i rannu eu syniadau a, gyda’i gilydd, datblygu set o ofynion cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfwng natur - gan alw ar arweinwyr y DU i weithredu cyn iddi fod yn rhy hwyr.

Mae’r elusennau’n teimlo mai nawr yw’r amser i gyd-greu cynnig ar gyfer adfer byd natur gan fod yr arolwg yn dangos y prif feysydd y byddai gan bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn gweld gwahanol gamau yn cael eu cymryd i wella byd natur a bywyd gwyllt yn eu hardaloedd lleol, gan gynnwys mwy o weithredu ar gyfer afonydd, dyfrffyrdd a moroedd glanach (54%), mwy o amddiffyniad i fyd natur yn y system cynllunio ac adeiladu tai (31%) a diogelwch cyfreithiol cryfach ar gyfer byd natur, bywyd gwyllt a chynefinoedd (36%).

Mae’r elusennau’n annog y cyhoedd i fynegi eu barn am ddyfodol byd natur yn y DU drwy ymweld â peoplesplanfornature.org cyn 30 Hydref. Mae’r elusennau hefyd wedi ffurfio partneriaeth â Chanolfannau Celfyddydau'r Dyfodol (rhwydwaith o ganolfannau diwylliannol annibynnol ledled y DU) i helpu i hwyluso’r sgwrs. 

Bydd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i roi eu syniadau ar goed a ddyluniwyd yn arbennig mewn 30 o Ganolfannau Celfyddydau ledled y DU, gan gynnwys Galeri yng Nghaernarfon a Chapter yng Nghaerdydd. Mae’r coed hefyd wedi’u gosod mewn llefydd y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu amdanynt, gan gynnwys Tŷ Tredegar, Casnewydd, a Phlas Newydd, Ynys Môn.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Dros Dro Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru a Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru: “Yr haf hwn, cafodd y tymheredd uchaf erioed ei gofnodi yng Nghymru a chawsom dywydd eithriadol a achosodd sychder, tannau gwyllt a niwed arall i’n byd natur a’n bywyd gwyllt. Arweiniodd gwres eithafol at ofnau o golli cnydau, gan gyfrannu at yr argyfwng costau byw y mae pawb yn ei brofi. Mae'r argyfwng natur yn effeithio ar bawb, felly dylai pawb fod yn rhan o’r sgwrs am sut rydyn ni am ei amddiffyn. 

“Mae’n galonogol gwybod bod 81% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod yn bryd i bawb chwarae rhan yn y gwaith o warchod ac adfer byd natur. Ond, dim ond 18% sy’n gwybod pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa, hynny yw, y ffaith mai’r DU yw un o’r llefydd gwaethaf yn y byd am golli byd natur. Felly, rydyn ni eisiau i bobl ddod at ei gilydd - boed hynny yn eu canolfan gelfyddydau leol, mewn tafarn, wrth eu byrddau brecwast neu wrth redeg yn y parc - a thrafod beth maen nhw’n ei fwynhau am fyd natur a beth mae angen i ni ei wneud i’w warchod ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Drwy gymryd rhan, gall y rheini sydd ddim yn teimlo bod ganddyn nhw’r grym i wneud hynny ar hyn o bryd leisio eu barn a chael effaith”.

Yn ôl yr arolwg, mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gweld dirywiad mewn natur a bywyd gwyllt yn eu hardaloedd lleol: 63% yn nifer ac amrywiaeth y pryfed maen nhw’n eu gweld, gan gynnwys glöynnod byw a gwenyn a 57% mewn adar; 63% yn nifer y mamaliaid maen nhw’n eu gweld fel draenogod, moch daear a dyfrgwn a 58% mewn mannau gwyrdd fel parciau a choetiroedd. Mae llawer wedi gweld y gostyngiad hwn mewn rhyw ffurf yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig (66%). 

Gall y realiti fod hyd yn oed yn waeth nag y mae pobl yn ei feddwl; mae dros 666 o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Ers dechrau monitro gwyddonol trwyadl yn y 1970au, o’r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, collwyd 73. Mae adar fel turturod a bras yr ŷd nawr wedi diflannu yng Nghymru. Ar gyfer rhywogaethau ar y tir ac mewn dŵr croyw yn y DU, yn ôl asesiadau a gynhaliwyd yng Nghymru, mae 10% o blanhigion, 8% o ffyngau a chennau, 36% o greaduriaid ag asgwrn cefn a 5% o greaduriaid di-asgwrn-cefn mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Gan ddechrau ym mis Tachwedd 2022, bydd grŵp cynrychioliadol o 100 o bobl o bob cwr o’r DU yn dod at ei gilydd yn y cynulliad natur y bobl cyntaf i ddatblygu cyfres o argymhellion i helpu ac adfer byd natur yn y DU. Yn ystod Cynulliad Natur y Bobl, bydd cyfranogwyr yn clywed gan wyddonwyr blaenllaw, gwleidyddion, arweinwyr diwydiant ac aelodau o’r cyhoedd i ddeall y pwysau sydd ar fyd natur y DU. Ym mis Chwefror, bydd Cynulliad Natur y Bobl yn blaenoriaethu’r hyn y mae’n ei ddeall fel yr atebion pwysicaf i warchod ac adfer byd natur yn y DU.

Yr actorion Maisie Williams a Cel Spellman yw’r hyrwyddwyr enwog cyntaf i gefnogi’r ymgyrch.

Dywedodd Maisie Williams, cynhyrchydd, ymgyrchydd ac actores a gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Emmy: “Mae Cynllun Natur y Bobl yn gyfle i bob un ohonom ddod at ein gilydd a brwydro dros fyd natur cyn iddi fod yn rhy hwyr. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r sgwrs hanfodol hon a chwarae rhan yn y gwaith o warchod ac adfer bywyd gwyllt sy’n golygu cymaint i mi ac i nifer o bobl eraill. I mi, mae cân yr adar bob amser yn fy atgoffa o adref, ac rydw i’n ofni deffro un diwrnod ac na fydda i’n gallu ei chlywed. Mae’n rhaid i ni weithredu nawr – a’r peth mwyaf pwerus y gallwn ei wneud yw defnyddio ein lleisiau, gyda’n gilydd. Felly beth am ymuno â’r frwydr hon gyda’n gilydd a dod â byd natur yn ôl yn fyw.”

Dywedodd Cel Spellman, actor, cyflwynydd ac ymgyrchydd: “Mae Cynllun Natur y Bobl yn gyfle prin i ni ddod at ein gilydd a sicrhau’r newid sydd ei angen ar gyfer ein byd naturiol. Rydyn ni i gyd wedi troi at fyd natur ac wedi’i werthfawrogi’n fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I mi, mae treulio amser yn ymgolli yn y byd naturiol yn llesol i’r enaid, y corff a’r meddwl. Ond eto, mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd.  Mae natur ein hangen nawr yn fwy nag erioed, a dyma’r amser i ni i gyd sefyll ar ein traed, gweithredu a defnyddio ein lleisiau i ddiogelu ac adfer ein rhywogaethau bywyd gwyllt, ein hecosystemau a’n hamgylchedd gwerthfawr. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd Poppy, 17 oed o Gasnewydd: “Fel ymgyrchydd ifanc, mae Cynllun Natur y Bobl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF yn ymgyrch ysbrydoledig a hanfodol. Mae’n dangos yr angen i warchod bioamrywiaeth a byd natur wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd oherwydd yn y pen draw mae’r argyfwng hinsawdd yn mynd law yn llaw â'r argyfwng natur. Rydw i’n credu ei fod yn gyfle gwych i uno a phontio’r bwlch rhwng gweithredu unigol, gwaith corff anllywodraethol a pholisi llywodraeth ac annog pawb i gymryd rhan.”

Bydd Cynllun Natur y Bobl yn gyfle i bawb rannu eu syniadau, gan ofyn i’r cyhoedd: “beth ydych chi’n ei garu am fyd natur yn y DU? Beth fyddech chi’n ei golli pe bai’n diflannu?” i gael eu hadborth ar sut mae mynd i’r afael â’r argyfwng natur a deall beth fyddai pobl yn hoffi ei weld ar gyfer dyfodol byd natur a bywyd gwyllt y DU.