Cynllun Natur y Bobl
Mae Cynllun Natur y Bobl yn weledigaeth ar gyfer dyfodol byd natur, a’r camau y mae’n rhaid i bob un ohonom eu cymryd i’w ddiogelu a’i adnewyddu.
Am y tro cyntaf, cafodd y cynllun ei greu ar gyfer y bobl, gan bobl y DU, drwy broses annibynnol a diduedd. Cafodd ei rannu’n ddwy ran, sef Sgwrs Genedlaethol a Chynulliad Natur y Bobl.
Dyma’r tri cham gweithredu mwyaf brys y mae’r bobl eisiau eu gweld:
-
Rhoi natur wrth galon y broses gwneud penderfyniadau
-
Systemau cymhorthdal ffermio yn blaenoriaethu ffermio cynaliadwy a chyfeillgar-i- nature
-
Mwy o atebolrwydd gan y Llywodraeth drwy sefydlu Cynulliad Natur parhaol
Gweledigaeth Pobl ar gyfer y Dyfodol

"Mae natur yn cael ei gwerthfawrogi a’i pharchu gan bawb. Mae dull cydweithredol a thymor hir o flaenoriaethu natur ym mhob penderfyniad. Mae hyn wedi creu byd wedi’i rymuso, sy’n hapusach ac yn iachach, gyda natur yn gysylltiedig â bywyd bob dydd. Mae hyn wedi gosod sylfaen ar gyfer llesiant pob bywyd yn y dyfodol."

"Mae pobl a natur yn cyd-fynd ac mae pobl ledled y wlad yn profi natur ar garreg eu drws. Mae pobl yn ymwybodol o’r ansawdd aer gwell a’r amrywiaeth o rywogaethau maent yn dod ar eu traws bob dydd. Mae gwleidyddion, elusennau, cyrff anllywodraethol, gwyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd, mewn ffyrdd gwybodus, i sicrhau bod bywyd gwyllt ffyniannus yn cael lle blaenllaw ym mhob penderfyniad.” Rydym yn deall bod angen i natur ffynnu, er budd ein bywydau ni i gyd."

"Mae cydbwysedd rhwng anghenion dynol a rhai nad ydynt yn rhai dynol, ac rydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb unigol ac ar y cyd i wella, cynnal a galluogi natur i ffynnu. Mae natur y daith rydym wedi bod arni wedi gwreiddio yn ein hymwybyddiaeth. Mae’r cydbwysedd hwn bellach yn ail natur i ni, ac mae’n fforddiadwy i ni ac i fyd natur. Rhodd natur i ni yw ein gwneud ni’n fwy cysylltiedig fel cymdeithas. Mae llesiant a hwyliau pawb ohonom wedi gwella, ac mae cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hysbrydoli."

"Mae adnewyddu natur sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ganolog i addysg gydol oes ac mae’n cynnwys profiadau go iawn. Mae’r defnydd ymarferol o adnewyddu ym myd natur wedi ei integreiddio ar draws cenedlaethau a diwylliannau; gan greu atgofion sy’n cael eu sbarduno gan yr awydd am wybodaeth sydd yn ein plant.”

" Rydym yn gallu treulio amser ym myd natur bob dydd, boed hynny’n chwarae, gweithio neu dreulio amser hamdden yn lle’r ydym yn byw. Rydym wedi cael ein haddysgu am fanteision natur i lesiant meddyliol a chorfforol ar bob cam o fywyd – ac rydym yn deall bod natur yn ein helpu ni drwy ddiogelu natur. Rydym yn gwarchod, yn gwella ac yn adnewyddu cynefinoedd ac ecosystemau i’r safonau ecolegol uchaf. Rydym yn troi at fyd natur am ei fanteision anniriaethol i’n hiechyd a’n llesiant.”

"Mae natur yn cael ei blaenoriaethu, yn cael ei gwerthfawrogi, ac yn derbyn gofal. Mae digonedd o rywogaethau ac mae natur yn ffynnu. Mae pawb yn chwarae eu rhan yn gofalu am fyd natur ac mae hyn wedi digwydd oherwydd bod y llywodraeth wedi gweithredu a, thrwy fod yn fwy gwybodus, mae pobl wedi codi eu llais ac wedi dod yn llais dros fyd natur.”
Ychwanegwch eich llais chi at Gynllun Natur y Bobl
Mae’r bobl wedi lleisio eu barn. Nawr mae angen i bawb weithredu.
Gyda’n gilydd gallwn wneud y cynllun hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu.