Pwy yw’r Grŵp Cynghori?

Mae Grŵp Cynghori Cynulliad Natur y Bobl yn cynnwys Arweinwyr Academaidd ac aelodau eraill o’r Grŵp Cynghori. Sgroliwch i weld pwy ydyn nhw. 

Arweinwyr Academaidd

Cafodd yr Arweinwyr Academaidd ar gyfer Byd Natur, yr Hinsawdd a Systemau Bwyd eu dewis fel ymchwilwyr gwyddonol arbenigol, annibynnol, uchel eu parch a chymwys iawn sy’n meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r holl bynciau, yn ogystal â’u gallu i wneud gwyddoniaeth yn hawdd ei deall i’r cyhoedd.  

 

Yr Athro Nathalie Seddon

Athro Bioamrywiaeth, Prifysgol Rhydychen

Professor Nathalie Seddon

Mae Nathalie Seddon yn Athro Bioamrywiaeth ac yn Sefydlwr-Gyfarwyddwr yn y Nature-based Solutions Initiative yn Adran Fioleg Prifysgol Rhydychen. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr yr Agile Initiative ac yn gyd-arweinydd Canolfan Adfer Byd Natur Leverhulme. Hyfforddodd fel ecolegydd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad ymchwil mewn amrywiaeth o ecosystemau ledled y byd. Fel Cymrawd Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol, datblygodd ddiddordebau ymchwil eang o ran deall tarddiad a chynhaliaeth bioamrywiaeth, a’i pherthynas â newid byd-eang. 

Bellach mae ei gwaith yn canolbwyntio ar bennu effeithiolrwydd ecolegol ac economaidd-gymdeithasol atebion sy’n seiliedig ar natur i heriau cymdeithasol, a sut mae cynyddu dylanwad gwyddor bioamrywiaeth gadarn ar y gwaith o ddylunio a gweithredu polisïau hinsawdd a datblygu. Mae Nathalie yn cynghori llywodraethau, asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig a busnesau ar atebion sy’n seiliedig ar natur fel aelod o Bwyllgor Addasu Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, Bwrdd Cynghori Gwyddoniaeth Gerddi Botanegol Brenhinol Kew, a Phwyllgor Gwyddoniaeth a Gwybodaeth Safon Fyd-eang yr IUCN ar gyfer Atebion sy’n Seiliedig ar Natur.  

Rhagor o wybodaeth am yr Athro Nathalie Seddon

Yr Athro Pete Smith

Athro Priddoedd a Newid Byd-eang, Prifysgol Aberdeen

Professor Pete Smith

Mae Pete Smith yn Athro Priddoedd a Newid Byd-eang yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberdeen ac yn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth Canolfan Arbenigedd yr Alban ar y Newid yn yr Hinsawdd (ClimateXChange). Mae ei ddiddordebau’n cynnwys lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, priddoedd, amaethyddiaeth, systemau bwyd, modelu gwasanaethau ecosystemau, ac atebion sy’n seiliedig ar natur.  

Mae wedi bod yn brif awdur cynnull ar sawl adroddiad gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) a’r Llwyfan Polisïau Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES).  

Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Bioleg, o Sefydliad y Gwyddonwyr Pridd ac o Gymdeithas Frenhinol Caeredin, yn Gymrawd Tramor o Academi Wyddoniaeth Genedlaethol India, yn Gymrawd o Academi Wyddoniaeth Ewrop, ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol (Llundain).  

Rhagor o wybodaeth am yr Athro Pete Smith 

Aelodau eraill o’r Grŵp Cynghori

Cafodd aelodau ychwanegol y Grŵp Cynghori eu dewis ar gyfer eu gwybodaeth a’u profiad o amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol i Gynulliad Natur y Bobl, gan gynnwys y diwydiant bwyd, ffermio, cadwraeth natur, iechyd, cyfranogiad, amrywiaeth a thegwch, ymgysylltu cymunedol a llywodraethau cenedlaethol ar draws y pedair gwlad.

 

 

Tom Chigbo

Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol a Chyfranogiad, TPXimpact (FutureGov gynt)

Tom Chigbo

 

Mae Tom yn ymgyrchydd a threfnydd cymunedol profiadol sy’n frwd dros botensial dinasyddion i ddylanwadu ar eu cymunedau a’u gwasanaethau cyhoeddus.  

Am dros ddegawd mae wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff y GIG, heddluoedd, a grwpiau ffydd, addysg a chymunedol ledled y DU i gynnwys pobl gyffredin mewn prosesau gwneud penderfyniadau a chyflawni newid drwy ddulliau trefnu cymunedol a democratiaeth gydgynghorol.  

Mae’n hyfforddwr medrus ac yn hwylusydd hyderus sydd wedi grymuso cannoedd o bobl o bob oed, crefydd a chefndir i gymryd camau cymdeithasol ystyrlon ochr yn ochr ag adeiladu a chynnal cynghreiriau trefnu cymunedol tymor hir sy’n gweithio gyda’i gilydd dros gyfiawnder cymdeithasol, ac er lles pawb. 

Russell De’ath

Uwch Gynghorydd Arbenigol, Cyfoeth Naturiol Cymru

Russell De'Ath

Yn wreiddiol, enillodd Russell radd mewn Cynllunio Trefi gan ysgrifennu thesis ar gyfranogiad cyhoeddus, ond mae wedi gweithio yn y sector amgylcheddol am 20 mlynedd. Yn ddiweddar mae wedi cefnogi’r gwaith o weithredu’r ddeddfwriaeth newydd ar Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru. Bellach yn gweithio ar y rhaglen Natur a Ni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Russell wedi gwneud cylch cyfan – gan geisio rhoi cyfranogiad cyhoeddus wrth galon yr ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Anurag Deb

Ymchwilydd PhD, Prifysgol y Frenhines, Belfast

Anurag Deb
Mae Anurag yn fyfyriwr paragyfreithiol a PhD sy’n ymchwilio i gyfraith gyfansoddiadol ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast. Rhwng mis Awst 2020 a mis Mawrth 2022, bu’n gweithio ar ddrafftio Deddf Newid Hinsawdd (Gogledd Iwerddon) 2022. Arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel menter cymdeithas ddinesig uchelgeisiol at un o’r cyfreithiau mwyaf eang a basiwyd erioed gan Gynulliad Gogledd Iwerddon.   

Dr Miranda Geelhoed

Cyd-drefnydd Datblygu Prosiectau a Pholisïau, Ffederasiwn Crofftio’r Alban

 

Nick Halfhide

Cyfarwyddwr Natur a Newid Hinsawdd, NatureScot

Nick Halfhide

Mae Nick yn arwain ymgyrch NatureScot i wrthdroi’r dirywiad presennol mewn byd natur a gweithio gyda byd natur i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n gweithio i warchod 30% o dir a môr yr Alban erbyn 2030, i adfer cynefinoedd a rhywogaethau ledled yr Alban, ac i wella’r ffordd y mae cymdeithas yn gwerthfawrogi byd natur a’r holl fanteision mae’n eu darparu.  

Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda byd natur yn yr Alban.  Yn ogystal â gweithio i NatureScot am dros ddegawd, mae wedi gweithio yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Cairngorms, Comisiwn Ceirw yr Alban, a South of Scotland Enterprise. 

Sarah Hendry

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA)

Sarah Hendry sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol, trefniant a gweithrediad didrafferth y CLA.  

Cyn ymuno â’r CLA yn 2018, treuliodd bron i 30 mlynedd fel swyddog Llywodraeth y DU yn gweithio ar draws polisïau cenedlaethol, yr UE a rhyngwladol. Bu’n uwch Gyfarwyddwr yn DEFRA a’r Adran Iechyd am ddeuddeg mlynedd ac mae ei phrofiad yn cynnwys ystod eang o feysydd sy’n berthnasol i fuddiannau aelodau’r CLA, gan gynnwys ffermio, yr amgylchedd, datblygu gwledig, y newid yn yr hinsawdd, coedwigaeth, dŵr a llifogydd.  

Rhagor o wybodaeth am Sarah Hendry

Tony Juniper

Cadeirydd, Natural England

Mae Tony Juniper CBE yn ymgyrchydd, yn awdur, yn ymgynghorydd cynaliadwyedd ac yn amgylcheddwr adnabyddus o Brydain. Am dros 35 mlynedd mae wedi gweithio dros newid tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.   

Heddiw, Tony Juniper yw Cadeirydd Natural England, y corff statudol sy’n gweithio i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol yn Lloegr. Cyn ymuno â Natural England ym mis Ebrill 2019, roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Eiriolaeth ac Ymgyrchoedd WWF-UK, gan ymuno â’r sefydliad ym mis Ionawr 2018 ar ôl cyfnod yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys fel Cynghorydd Arbennig i Uned Cynaliadwyedd Rhyngwladol Tywysog Cymru, ar ôl gweithio’n flaenorol (2008-2010) fel Cynghorydd Arbennig gyda Phrosiect Coedwigoedd Glaw’r Tywysog. Roedd yn Gymrawd (ac yn parhau i fod) gyda Sefydliad Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Caergrawnt (CISL), gan weithio fel aelod o’r gyfadran addysgu a chyfrannu at sawl rhaglen, gan gynnwys Rhaglen Busnes a Chynaliadwyedd Tywysog Cymru. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Robertsbridge, sy’n rhoi cyngor i gwmnïau mawr ar y ffordd orau o gyflawni nodau cynaliadwyedd uchelgeisiol. 

Aekus Kamboj (Hi)

Swyddog Amgylcheddol, y Rhwydwaith Amgylcheddol Lleiafrifoedd Ethnig (EMEN) 

Aekus Kamboj

Aekus yw Swyddog Amgylcheddol CEMVO Scotland (sefydliad gwrth-hiliaeth cyfryngol cenedlaethol) lle mae’n hwyluso’r Rhwydwaith Amgylcheddol Lleiafrifoedd Ethnig (EMEN). Mae’n darparu cymorth meithrin gallu i aelodau’r rhwydwaith sy’n gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, yn cefnogi Llywodraeth yr Alban yn ei hymdrechion i wneud y sector gwyrdd yn lle cynhwysol i unigolion o leiafrifoedd ethnig, yn gweithio ar ddylanwadu ar bolisïau ac yn trefnu gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned i gydweithio tuag at nodau cyffredin cyfiawnder hinsawdd.  

Mae gan Aekus gefndir academaidd mewn Ecoleg Gymdeithasol o Brifysgol Glasgow ac mae wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil a dadleuon ecolegol ers 2017, gan ganolbwyntio’n benodol ar strategaethau adfer ecosystemau morol. Mae gan Aekus hefyd ddiddordeb brwd yn yr argyfwng amgylcheddol byd-eang i ffoaduriaid ac mae wedi ymchwilio i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar argyfwng ffoaduriaid Rohingya gyda’r Weinyddiaeth Materion Allanol yn India. Yn ystod COP26, bu Aekus yn gweithio gyda staff Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn yr ystafelloedd cynadleddau i’r wasg ac yn darparu cymorth prosiectau arbennig i ystafelloedd cyfarfod y Cenhedloedd Unedig.  

Rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Amgylcheddol Lleiafrifoedd Ethnig

Dr Becca Lovell

Uwch Ddarlithydd, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerwysg

Dr Becca Lovell

Mae Dr Becca Lovell wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ewropeaidd yr Amgylchedd ac Iechyd Dynol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Amgylcheddau Naturiol ac Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerwysg. Mae Becca’n canolbwyntio ar werthuso, cyfuno a throsi tystiolaeth o’r cysylltiadau rhwng byd natur ac iechyd ar gyfer polisïau ac ymarfer. Mae ganddi ddiddordeb yn rolau niferus yr amgylchedd naturiol o ran pennu iechyd cyfartal y boblogaeth; ‘beth sy’n gweithio’ mewn ymyriadau iechyd sy’n seiliedig ar fyd natur a darparu atebion sy’n seiliedig ar fyd natur; a sut gallai gwell dealltwriaeth o’r ffyrdd yr ydym ni fel unigolion a chymunedau yn gwerthfawrogi amgylcheddau naturiol lywio penderfyniadau a ffyrdd o weithio. 

Rhagor o wybodaeth am Dr Becca Lovell

Thomasina Miers

Cyd-sylfaenydd, Wahaca

Thomasina Miers

 

Yn ogystal â bod yn awdur ac yn gogydd cystal ei bod wedi ennill MasterChef, mae Tommi wedi cyd-sefydlu bwytai Wahaca, sydd wedi ennill nifer o wobrau am eu bwyd a’u cynaliadwyedd. Mae Tommi yn frwd dros fwyd, pridd a’r amgylchedd.  Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Chefs in Schools, elusen sy’n trawsnewid sut mae plant yn bwyta ac yn teimlo am fwyd. Cafodd OBE yn 2019.    

Mae gan Tommi golofn wythnosol yng nghylchgrawn Feast y Guardian a chyhoeddwyd ei llyfr coginio diweddaraf, Meat Free Mexican, ym mis Mai 2022.  Mae hi’n ymweld â Mecsico’n rheolaidd ac mae’n cynnal gwleddau coginio a chlybiau swper mewn ceginau ledled y DU.  Mae hi’n siopa yn ei marchnad leol ac yn tyfu ffrwythau a llysiau yn ei gardd. Mae’n byw yn ôl ei rheol, sef ein bod yn cael tri chyfle bob dydd i ofalu am y blaned drwy’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a sut mae’n cael ei dyfu – ac wedi’i goginio mewn ffordd mor flasus â phosib gobeithio!  

Rhagor o wybodaeth am Thomasina Miers

Ali Morse

Rheolwr Polisi Dŵr, yr Ymddiriedolaethau Natur

Ali Morse

Mae Ali wedi gweithio yn y sector cadwraeth drwy gydol ei gyrfa, gan ganolbwyntio ar ddŵr ffres. A hithau’n Rheolwr Polisi Dŵr yn yr Ymddiriedolaethau Natur, mae’n gweithio ar lefel genedlaethol ar bob agwedd ar bolisi dŵr, gan gynnwys llygredd, llifogydd a chadwraeth rhywogaethau. Mae hefyd yn cadeirio Blueprint for Water, clymblaid o dros 20 o gyrff anllywodraethol amgylcheddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i alw am well gwarchodaeth ar gyfer yr amgylchedd dŵr.

Nadeem Perera

Cyd-sylfaenydd, Flock Together

Nadeem Perera

Mae Nedeem Perera yn gyd-sylfaenydd Flock Together, ac yn ymchwilydd a chyflwynydd teledu ym maes bywyd gwyllt. Yn ei waith, mae Nadeem yn eirioli dros amrywiaeth o safbwyntiau yn y sgyrsiau sy’n ymwneud â bywyd gwyllt a gweithredu cymdeithasol/ar yr hinsawdd, sy’n cynnwys ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.  

Rhagor o wybodaeth am Flock Together

Hedd Pugh

Cadeirydd y Bwrdd Materion Gwledig, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru

Hedd yw cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru. Mae’n ffermio 800 hectar gyda’i ddau fab. Mae hyn yn cynnwys tua 610 hectar o fynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys Aran Fawddwy sy’n codi dros 2,900 troedfedd. 

Mae gan Hedd braidd o 1,600 o famogiaid sy’n rhai Mynydd Cymreig yn bennaf, ynghyd â buches o 40 o fuchod sugno. Mae wedi cymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol am 25 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi plannu dros 2,000 o goed o rywogaethau brodorol; wedi adfer dros 7,000m o wrychoedd; wedi sefydlu 1,900m o goridorau nant; wedi adfer 250m o waliau cerrig sych; 15 hectar o goetiroedd di-stoc; gyda 560 hectar o fynydd caeedig yn cael ei reoli’n weithredol er mwyn gwella cynefinoedd. 

Mae’n cymryd rhan frwd mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd a dywedodd: “Rydyn ni’n ffermio mewn lleoliad bendigedig. Mae tirwedd Cymru rydyn ni’n ei gweld a’i mwynhau heddiw – ac sy’n cynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau – wedi cael ei chreu, ei siapio a’i chynnal gan weithgarwch ffermio dros gannoedd o flynyddoedd. 

“Mae’n dirwedd sy’n cael ei rheoli’n ofalus ac rydyn ni’n cydnabod fel ffermwyr yr amrywiaeth eang o nwyddau cyhoeddus rydyn ni’n eu darparu. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys bwyd o ansawdd uchel ond hefyd manteision ehangach i fioamrywiaeth, storio carbon, dŵr glân a chynhyrchu ynni.” 

Rhagor o wybodaeth am Hedd Pugh

Chloe Saltmarsh

FLAME – cangen ieuenctid Cynghrair y Gweithwyr Tir

Rhagor o wybodaeth am FLAME 

John Watkins

Prif Weithredwr, Cymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

John Watkins

Mae John wedi mwynhau gyrfa hir yn y sector tirwedd ac amgylchedd ehangach. Ymunodd â Chymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel ei Phrif Weithredwr ym mis Gorffennaf 2021 o Lywodraeth Cymru, lle roedd yn Bennaeth Polisi ar gyfer Economi’r Dyfodol. Yma roedd yn arwain y gwaith o gynhyrchu Cenhadaeth Cymru i Ailadeiladu’r Economi, sef y cynllun i adfer ar ôl difrod economaidd pandemig y coronafeirws.  Fel pennaeth tirwedd a hamdden awyr agored gynt yn Llywodraeth Cymru, sefydlodd Tirweddau’r Dyfodol Cymru fel rhaglen gydweithredol sy’n seiliedig ar ddysgu ar y cyd a ddatblygodd y meddylfryd a’r consensws ar safbwynt cynhwysfawr a chyfoes ynghylch sut mae tirweddau’n cael eu cydnabod a’u rheoli. Penllanw hyn oedd Gwerthfawr a Chydnerth: y ddogfen bolisi sy’n gosod y sylfaen ar gyfer y tirweddau dynodedig yng Nghymru. Mae John yn byw yng Ngogledd Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.  

Rhagor o wybodaeth am John Watkins

Dr Meriweather Wilson

Cyd-gyfarwyddwr Arweinwyr Eigion, Prifysgol Caeredin

Dr Meriweather Wilson

Mae Meriwether Wilson yn Uwch Ddarlithydd (Athro Cyswllt) mewn Gwyddor a Pholisi Môr ym Mhrifysgol Caeredin. Mae ei gwaith ymchwil, addysgu ac arwain yn canolbwyntio ar y croestoriadau rhwng gwyddoniaeth, polisi a chymdeithas mewn ecosystemau morol. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar fioamrywiaeth, llywodraethu morol, yr economi las ac addasu i’r hinsawdd ar gyfer gwledydd ynys ar raddfeydd lleol i fyd-eang, a chymunedau. Sefydlodd Meriwether MSc cyntaf rhyngddisgyblaethol y brifysgol mewn Systemau a Pholisïau Môr, ac yn fwy diweddar Rhaglen Arweinwyr Eigion Caeredin

Cyn ymuno â Phrifysgol Caeredin, treuliodd Meriwether ddau ddegawd yn gweithio ar ardaloedd morol gwarchodedig a datblygu cynaliadwy, ym Manc y Byd a sefydliadau rhyngwladol eraill, ar draws gwahanol raddfeydd, diwylliannau ac economïau, a phrosiectau ledled Asia, y Môr Tawel, y Caribî, Ewrop a’r Dwyrain Canol.  Mae gan Meriwether raddau o Brifysgol Duke, Prifysgol Yale a Phrifysgol Washington, ac mae’n aelod o Gomisiwn IUCN y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig ers amser maith.  

Rhagor o wybodaeth am Dr Meriwether Wilson

 

 

Learn more about the People's Assembly for Nature