Beth yw’r Grŵp Cynghori?
Mae’r Grŵp Cynghori’n rhan hollbwysig o wneud yn siŵr bod Cynulliad y Bobl yn broses deg, gytbwys a gwybodus. Mae’r aelodau wedi cael eu dewis ar gyfer eu harbenigedd technegol a’u profiadau amrywiol, ac i herio’r safbwyntiau sy’n cael eu derbyn a goruchwylio proses ddylunio annibynnol, gadarn a democrataidd.
Dyma rôl y Grŵp Cynghori:
-
Darparu cyngor ac arweiniad ynghylch y dystiolaeth wyddonol a chyflwynwyd i Gynulliad y Bobl;
-
Taro golwg ar yr adnoddau a’r deunyddiau a gyflwynwyd i Gynulliad y Bobl, gan wneud yn siŵr eu bod yn gytbwys, yn gywir ac yn cynnwys safbwyntiau o’r pedair gwlad;
-
Helpu i roi cyd-destun i waith Cynulliad y Bobl mewn dadleuon ehangach ar golli bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, a chynhyrchu a defnyddio bwyd.
-
Cysylltu rhaglen Cynllun Natur y Bobl â mentrau eraill er mwyn rhannu dysgu;
-
Rhoi cyngor a chymorth i’r tîm cyflawni i sicrhau bod y broses yn hygyrch ac yn deg i bawb sy’n bresennol.
Mae aelodau’r Grŵp Cynghori arbenigedd yn y meysydd a fydd yn cael sylw gan Gynulliad y Bobl: bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, a bwyd a ffermio. Maen nhw’n cynrychioli ystod eang o safbwyntiau ideolegol, gan gynrychioli gwahanol rannau o gymdeithas, gan gynnwys busnes, cynrychiolwyr llywodraethau, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol, a grwpiau cymdeithas sifil.
Sut cawsant eu dewis?
Roedd tîm dylunio prosiectau Cynulliad Natur y Bobl – sy’n cynnwys aelodau Involve ac aelodau staff yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r WWF – wedi creu rhestr fer a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Grŵp Cynghori yn cynnwys y canlynol:
-
safbwyntiau eang;
-
cynrychiolaeth o’r gwledydd datganoledig;
-
cynrychiolaeth o wahanol rannau o gymdeithas;
-
ffocws ar bontio’r cenedlaethau;
-
dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw.
Cafodd y rhestr hefyd ei hadolygu gan ddau Arweinydd Academaidd sy’n gweithio ar y prosiect hwn.
Ydy hyn yn golygu eu bod yn atebol?
Nid yw’r Arweinwyr Academaidd na’r Grŵp Cynghori yn atebol am y dystiolaeth derfynol sy’n cael ei dewis a’i chyflwyno yn ystod penwythnosau’r cynulliad. Maen nhw’n gweithredu mewn rôl ymgynghorol yn unig. Ni fyddant yn cymeradwyo argymhellion Cynllun Natur y Bobl yn awtomatig.