Rôl y Grŵp Cynghori
Dyma beth mae’r Grŵp Cynghori wedi’i wneud:
- Darparu cyngor ac arweiniad ynghylch y dystiolaeth wyddonol a roddwyd i Gynulliad Natur y Bobl.
- Gwirio’r adnoddau a’r deunyddiau a gyflwynwyd i Gynulliad Natur y Bobl, gan wneud yn siŵr eu bod yn gytbwys, yn gywir ac yn cynnwys safbwyntiau o’r pedair gwlad.
- Helpu i roi cyd-destun i waith Cynulliad Natur y Bobl o fewn dadleuon ehangach ar golli bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, a chynhyrchu a defnyddio bwyd.
- Cysylltu rhaglen Cynllun Natur y Bobl â mentrau eraill er mwyn rhannu dysgu.
- Rhoi cyngor a chymorth i’r tîm cyflawni i sicrhau bod y broses yn hygyrch ac yn deg i bawb oedd yn bresennol
Mae gan aelodau’r Grŵp Cynghori arbenigedd yn y meysydd a fydd yn cael sylw gan Gynulliad Natur y Bobl: bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, bwyd a ffermio. Maen nhw’n cynrychioli ystod eang o safbwyntiau ideolegol, gan gynrychioli gwahanol rannau o gymdeithas, gan gynnwys busnes, cynrychiolwyr llywodraethau, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol, a grwpiau cymdeithas sifil.
Sut cawsant eu dewis?
Roedd tîm dylunio prosiect Cynulliad Natur y Bobl – sy’n cynnwys aelodau Involve ac aelodau staff yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r WWF – wedi creu rhestr fer a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Grŵp Cynghori yn cynnwys y canlynol:
- Ystod eang o safbwyntiau.
- Cynrychiolaeth o’r gwledydd datganoledig.
- Cynrychiolaeth o wahanol rannau o gymdeithas.
- Ffocws ar bontio’r cenedlaethau.
- Dealltwriaeth o’r pwnc o dan sylw.
Cafodd y rhestr hefyd ei hadolygu gan ddau Arweinydd Academaidd sy’n gweithio ar y prosiect hwn.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod Cynulliad Natur y Bobl yn ddiduedd ac yn deg, penodwyd Grŵp Cynghori annibynnol i wirio’r cynnwys oedd yn cael ei drafod a sut y cafodd ei gyflwyno.
Dyma pwy oedd yn y grŵp:

Tom Chigbo
Community Engagement and Participation Manager, TPXimpact (formerly FutureGov)

Russell De’ath
Senior Specialist Advisor, Natural Resources Wales

Anurag Deb
PhD researcher, Queen's University Belfast
Dr Miranda Geelhoed
Policy and Project Development Coordinator, Scottish Crofting Federation

Nick Halfhide
Director of Nature and Climate Change, Nature Scot

Tony Juniper
Chair, Natural England

Ali Morse
Water Policy Manager, the Wildlife Trusts
Grŵp Cynghori Nodiadau Cyfarfod
Lawrlwythwch a darllenwch nodiadau cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar 4 Hydref 2022.
Lawrlwythwch a darllenwch nodiadau ail gyfarfod y Grŵp Cynghori ar 20 Hydref 2022.
Lawrlwythwch a darllenwch nodiadau trydydd gyfarfod y Grŵp Cynghori ar 22 Tachwedd 2022.
Lawrlwythwch a darllenwch nodiadau cyfarfod diweddaraf y Grŵp Cynghori ar 19 Ionawr 2023.
Ychwanegwch eich llais chi at Gynllun Natur y Bobl
Mae’r bobl wedi lleisio eu barn. Nawr mae angen i bawb weithredu.
Gyda’n gilydd gallwn wneud y cynllun hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu.