Cynulliad Natur y Bobl - Y Penwythnos cyntaf

Sgroliwch i lawr i lwytho'r adnoddau neu i weld y cyflwyniadau

Beth yw Natur a Pham mae Angen ei Gwarchod?

11 - 13 Tachwedd 2022, Birmingham

Yn ystod y penwythnos cyntaf hwn, cafodd y cyfranogwyr eu cyflwyno i’r cysyniad o Gynulliad Dinasyddion - sut mae’n gweithio, beth i’w ddisgwyl o’r pedwar penwythnos, a beth fydd yn digwydd i Gynllun Natur y Bobl o ganlyniad i’w hamser a’u hymrwymiad i’r prosiect.

Ar y dydd Sadwrn, clywodd aelodau’r cynulliad drosolwg o natur – beth yw a pham mae’n bwysig. Daethant i wybod beth sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth a sut mae hyn wedi effeithio ar natur yn y DU. Cawsant eu cyflwyno hefyd i’r prif ‘actorion’ (e.e. y Llywodraeth, y diwydiant, cyrff anllywodraethol) y bydd Cynllun y Bobl yn creu argymhellion ar eu cyfer, er mwyn deall pwy sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â cholli byd natur.

Ddydd Sul, clywodd aelodau’r cynulliad am y meddwl tymor hir i helpu i gyflwyno’r cysyniad o stiwardiaeth amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a buont yn gwrando ar drosolwg o’r atebion sydd gennym i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Yn olaf, trafodwyd tegwch, cyfiawnder a thrawsnewid cyfiawn i wneud yn siŵr bod aelodau’r cynulliad yn ystyried effaith a goblygiadau eu dewisiadau ar bobl a bywoliaethau yn yr wythnosau i ddod.

Pwy siaradodd yn y cynulliad?

First weekend - Speakers

Learn about who spoke at the first assembly weekend (11 - 13 November)

Y penwythnos cyntaf - Siaradwyr

Dysgu pwy siaradodd yn ystod penwythnos cyntaf y cynulliad (11 - 13 Tachwedd)

Beth ddigwyddodd yn ystod y cynulliad?

Y Penwythnos cyntaf - Agenda

Dysgu mwy am gyflwyniadau a phynciau trafod penwythnos cyntaf y cynulliad (11-13 Tachwedd)

Cyflwyniadau a sgyrsiau