Ychwanegwch eich llais chi at Gynllun Natur y Bobl

Mae’r bobl wedi lleisio eu barn. Nawr mae angen i bawb weithredu. Gyda’n gilydd gallwn wneud y cynllun hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu.

Darllen Cynllun Natur y Bobl

Mae Cynllun Natur y Bobl yn gynllun sydd wedi’i greu ar gyfer y bobl, gan y bobl – gweledigaeth ar gyfer dyfodol natur y DU, a’r camau y mae’n rhaid i bob un ohonom eu cymryd i’w ddiogelu a’i adnewyddu. 

Mae miloedd o bobl o bob rhan o’r DU wedi cyfrannu at Gynllun Natur y Bobl. Mae’n galw am weithredu ar frys ac ar unwaith – gan lywodraethau, busnesau, elusennau, sefydliadau, ffermwyr a chymunedau – i ddiogelu a newid y ffordd rydyn ni’n gwerthfawrogi natur yn sylfaenol.  

Sut cafodd Cynllun Natur y Bobl ei greu

Cafodd Cynllun Natur y Bobl ei greu gan y bobl, ar gyfer y bobl.  

Dyma sut daeth y Cynllun i fodolaeth: 

Cam un – Y Sgwrs Genedlaethol

Dechreuodd Cynllun Natur y Bobl gyda galwad agored am syniadau a straeon gan y cyhoedd ynghylch beth mae natur yn ei olygu i chi a sut gallwn ni ei achub. Cyflwynwyd bron i 30,000 o ymatebion mewn pedair wythnos.

Cam dau - Cynulliad Natur y Bobl

Cafodd grŵp cynrychioladol o 103 o bobl o wahanol gefndiroedd, gwerthoedd a phrofiadau eu dewis ar hap i ffurfio Cynulliad Natur y Bobl. Daeth y grŵp at ei gilydd gydag arbenigwyr a thystion dros bedwar penwythnos i ddysgu am yr argyfwng y mae natur y DU yn ei wynebu. Yna, buont yn trafod y materion cyn dod o hyd i dir cyffredin i greu Cynllun Natur y Bobl.

Cam tri – Cynllun rhy fawr i’w anwybyddu

Mae’r bobl wedi siarad. Nawr mae angen i bob un ohonom weithredu.

Mae’r Cynllun yn nodi’r camau brys sydd i'w cymryd ar unwaith – gan lywodraethau, busnesau, elusennau, sefydliadau, ffermwyr a chymunedau – i ddiogelu ac adnewyddu byd natur.

Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod y Cynllun yn rhy fawr i’w anwybyddu drwy ddangos yn union faint o bobl sy’n ei gefnogi.