Hysbysiad Preifatrwydd

 CYFLWYNIAD

Mae’r RSPB ac 89up wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a diogelwch eich data personol.  Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham ein bod yn defnyddio eich data personol, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mai chi sy'n rheoli eich gwybodaeth.  Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r wefan hon yn unig, a allai fod â dolenni i wefannau trydydd partïon. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na hysbysiadau preifatrwydd unrhyw wefannau trydydd parti ac rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ac adolygu arferion pob gwefan y byddwch yn ymweld â hi.

Rheolwr data’r wefan hon yw’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (rhif elusen 207076 yn Lloegr a SC037654 yn yr Alban, gyda’r rheolydd data rhif Z5794583).

Prosesydd data’r wefan hon yw 89up, sef cwmni cyfyngedig preifat sydd wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yng Nghymru a Lloegr a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (‘ICO’). Mae ei wefan wedi cael ei chreu gan 89up Ltd (‘89up’), sef asiantaeth cyfathrebiadau achosion sy’n gweithio i wneud y byd yn lle mwy agored a rhydd.

EICH DATA

Byddwch bob amser yn cael gwybod pan fydd eich data’n cael ei gasglu, a dim ond at y diben rydych chi’n ei ddarparu y bydd yn cael ei ddefnyddio.  Mae’r data a roddir drwy’r wefan hon yn cael ei brosesu drwy feddalwedd yr ymgyrch, Start A Fire a system rheoli cynnwys y we sy’n cael ei rheoli gan 89up.

Mae’r data sy’n cael ei brosesu yn cynnwys:

  • eich cyfeiriad e-bost neu fanylion mewngofnodi ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol rydych chi’n eu darparu;
  • eich cyfeiriad IP, a manylion pa fersiwn o’r porwr gwe a ddefnyddiwyd gennych;
  • gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan, i helpu 89up i wella’r wefan;
  • unrhyw gwestiynau, sylwadau neu adborth y byddwch yn eu gadael ar y wefan;
  • Mae 89up yn rheoli gwybodaeth neu ddata penodol amdanoch chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, sy’n ein galluogi i wneud y canlynol:
  • cyfathrebu â chi am yr ymgyrch ac ymateb i unrhyw adborth a anfonwch;
  • rhoi gwybodaeth i chi am 89up os ydych chi eisiau hynny.
  • Mae 89up yn prosesu gwybodaeth neu ddata amdanoch chi er mwyn:
  • gwella’r wefan drwy fonitro sut rydych yn ei defnyddio;
  • ymateb i unrhyw adborth a anfonwch;
  • os byddwch chi’n caniatáu, cynnal dadansoddiadau i ddeall mwy am yr ymwelwyr â’r wefan drwy ddefnyddio cwci sesiwn i storio eich data personol.  Ni fydd y cwci sesiwn yn trosglwyddo gwybodaeth i drydydd partïon;
  • bydd eich data’n cael ei rannu â’r Prosiect Dinasyddiaeth Newydd ac yn cael ei gyfyngu i enw, rhanbarth a nifer y ‘hoffi’ ar gyfer cyflwyniad penodol.

Mae eich data’n cael ei storio gan 89up ar weinyddion cwmwl sydd wedi’u lleoli yn yr Undeb Ewropeaidd, a dim ond 89up sy’n gallu cael mynediad ato drwy ddulliau diogel sydd wedi’u hamgryptio.  Bydd eich data’n cael ei ddileu ddiwedd mis Mehefin 2023.

CHI SY'N CADW TREFN

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr mai chi sy'n cadw trefn ar eich data personol.  Rhan o hyn yw sicrhau eich bod yn deall eich hawliau cyfreithiol, sef hawl i gadarnhau p’un ai a ydyn ni’n cadw eich data personol ai peidio, ac, os ydyn ni, cael copi o’r wybodaeth bersonol a gedwir gennym (yr enw ar hyn yw cais am fynediad at ddata gan y testun);

  • yr hawl i gael eich data wedi’i ddileu (er na fydd hyn yn berthnasol pan fydd yn rhaid i ni barhau i ddefnyddio eich data am reswm cyfreithiol);
  • yr hawl i gywiro data anghywir;
  • pan fo'n dechnegol yn ymarferol, yr hawl i ddata personol a roddwyd gennych ac a brosesir gennym ar sail eich caniatâd neu gyflawni contract. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu mewn fformat electronig cyffredin.

Cofiwch fod eithriadau i’r hawliau uchod, ac er y byddwn bob amser yn ceisio ymateb, efallai y bydd sefyllfaoedd pan na allwn wneud hynny.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu os hoffech eu harfer, ysgrifennwch gan nodi ‘Cynllun Natur y Bobl’ at ein Swyddog Diogelu Data drwy dpofficer.rspb.org.uk neu drwy’r post:

Swyddog Diogelu Data / Data Protection Officer
RSPB
The Lodge
Sandy
Bedfordshire
SG19 2DL.

Cwynion

Gallwch gwyno i’r RSPB yn uniongyrchol drwy gysylltu â’n swyddog diogelu data gan ddefnyddio’r manylion a nodir uchod.  Os nad ydych chi’n fodlon â'n hymateb, neu os ydych chi’n credu bod eich hawliau diogelu data neu breifatrwydd wedi'u torri, gallwch gwyno wrth Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU sy'n rheoleiddio ac yn gorfodi cyfraith diogelu data yn y DU. Mae manylion sut mae gwneud hyn ar gael yn www.ico.org.uk.

Efallai y byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu’n gywir sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau sydd gennych am y polisi hwn at dpofficer.rspb.org.uk neu drwy’r post yn:

Swyddog Diogelu Data / Data Protection Officer
RSPB
The Lodge
Ffordd Potton
Sandy
Bedfordshire
SG19 2DL